Athrawon cyflenwi: Cymru

Athrawon cyflenwi yn gofyn am fynediad cyfartal i delerau ac amodau.

Published:

Mae NEU Cymru, undeb addysg mwyaf Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i beidio â gwahaniaethu rhwng athrawon cyflenwi hirdymor ac athrawon cyflenwi tymor byr a sicrhau bod pob athro cyflenwi yn cael ei dalu’n gyfartal, ni waeth am ba hyd y maent yn gweithio mewn ysgol.

Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Mae ein haelodau’n glir bod athrawon cyflenwi yn darparu dilyniant hanfodol pan fo athro yn absennol ac y dylid eu gwobrwyo ochr yn ochr â’u cyfoedion o ran telerau ac amodau, gan gynnwys cynllun pensiwn athrawon – maent yn gweithio’n galed i addysgu plant, yn aml ar fyr rybudd, gydag ychydig iawn o amser i baratoi.

“Mae ein haelodau wedi tynnu sylw at eu pryderon ynghylch yr ymgais i greu system gyflogaeth ddwy haen ar gyfer athrawon cyflenwi, rhwng y rhai sy’n gweithio ar sail tymor byr a’r rhai sy’n gweithio ar sail hirdymor. Mae hyn yn tanseilio proffesiynoldeb athrawon cyflenwi ac mae’n annerbyniol ac yn hynod siomedig.

“Byddwn yn parhau i godi’r materion hollbwysig hyn gyda Llywodraeth Cymru.”

 

GORFFEN

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 20. Athrawon Cyflenwi

Mae Cynhadledd Cymru yn cydnabod y gwasanaeth hanfodol a ddarperir gan athrawon cyflenwi i ddarparu parhad dysgu yn ystod cyfnodau o absenoldeb athrawon. Mae’r gynhadledd yn cydnabod bod athrawon cyflenwi yn athrawon cymwysedig ac y dylid eu talu i Raddfeydd Cyflog Athrawon Cenedlaethol.

Mae’r gynhadledd yn condemnio awgrymiadau Llywodraeth Cymru bod rôl athro cyflenwi yn wahanol i rôl athro dan gontract ac mae’n ymwybodol bod symudiadau ar droed i wahaniaethu rhwng cyflenwi hirdymor a chyflenwi tymor byr. Mae'r ddwy rôl yn dod â'u heriau eu hunain ac mae'r llogwyr yn gofyn am athrawon profiadol waeth pa mor hir y cyflenwi. Mae disgyblion yn elwa o gael eu haddysgu gan athrawon cymwys a phrofiadol i gefnogi lles, dysgu a chynnydd disgyblion ym mhob rôl addysgu boed yn y tymor byr neu’r tymor hir.

Mae Cynhadledd Cymru yn galw ar NEU Cymru i ddiogelu statws athrawon cyflenwi p'un ai cyflogaeth drwy awdurdodau lleol neu asiantaethau trwy:

1. Weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddiogelu statws, a thelerau ac amodau athrawon cymwys yn unol â Dogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru).

2. Eirioli’n gyson i sicrhau bod athrawon cyflenwi yn cael hawliau cyfartal i’r Ddogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) ym mhob swydd addysgu.

Back to top