Hiliaeth yn y Gweithle. Cynnig 10

Pryder aelodau NEU Cymru am hiliaeth yn y gweithle.

Published:

Mae gan NEU Cymru, undeb addysg fwyaf Cymru, bryderon ynghylch y cynnydd mewn hiliaeth yn ein hysgolion a’n colegau gyda myfyrwyr a staff Du yn wynebu graddau amrywiol o gamdriniaeth hiliol.

Bydd Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru yn edrych i weithio ar y cyd ar draws pob sector addysg a chydag undebau llafur addysg i greu rhaglen hyfforddiant ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol sy’n herio hiliaeth ac yn hyrwyddo newid cadarnhaol. Bydd yr undeb hefyd yn hyrwyddo Cynllun Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Siarter Gwrth-Hiliaeth yr NEU i bob cynrychiolydd.

Dywedodd Stuart Williams, Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Mae ein haelodau’n cydnabod yr heriau a wynebir wrth fynd i’r afael â rhagfarn ddiarwybod a micro-ymosodedd yn ogystal â hiliaeth amlwg a chudd yn y gweithle.

“Mae pob math o hiliaeth yn ffiaidd, ac mae ein haelodau’n glir pan ddywedant fod yn rhaid gwneud mwy i gefnogi gweithwyr addysg proffesiynol a myfyrwyr i wneud iddynt deimlo'n ddiogel a'u bod yn cael eu cefnogi i herio a galw allan yr ymddygiad hwn.

“Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gweithwyr addysg proffesiynol yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a bod rhywun yn gwrando arnynt yn y gweithle. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Gymru wrth-hiliol, ac rydym am eu cefnogi i wireddu hyn.”

 

GORFFEN

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 10. Hiliaeth yn y Gweithle

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi bod cynnydd mewn hiliaeth yn ein hysgolion a’n colegau gyda myfyrwyr a staff o gefndiroedd Du yn wynebu graddau amrywiol o gamdriniaeth hiliol. Hiliaeth yw'r gwahaniaethu a'r rhagfarn tuag at bobl ar sail eu hil neu ethnigrwydd. Mae’r TUC wedi amlygu bod 2 o bob 5 gweithiwr Du wedi profi hiliaeth yn y gweithle y llynedd ond ni wnaeth 4 o bob 5 adrodd amdano. Mae Cynhadledd Cymru yn cydnabod yr heriau a wynebir wrth fynd i’r afael â rhagfarn ddiarwybod a micro-ymosodedd yn ogystal â hiliaeth amlwg a chudd yn y gweithle.

Mae Cynhadledd Cymru yn credu bod pob math o hiliaeth yn ffiaidd a bod yn rhaid i ni wneud mwy i gefnogi ein haelodau a’n myfyrwyr i deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi i herio a galw allan yr ymddygiad hwn, ac i deimlo bod rhywun yn eu gwerthfawrogi ac yn gwrando arnynt yn y gweithle.

Mae Cynhadledd Cymru yn cyfarwyddo NEU Cymru drwy’r adran weithredol i:

1. Greu Rhwydwaith Addysgwyr Du ar gyfer aelodau NEU ledled Cymru, gan weithio ar y cyd gydag Aelod Gweithredol Addysgwyr Du yr NEU.

2. Weithio ar y cyd ar draws pob sector addysg a chydag undebau llafur addysg a rhwydwaith addysgwyr du yr NEU, aelodau’r Fforwm Trefnu ac aelod Gweithredol Addysgwyr Du i greu rhaglen hyfforddiant ar gyfer aelodau undebau, ysgolion a cholegau sy’n herio hiliaeth ac yn hyrwyddo newid cadarnhaol.

3. Arolygu aelodau i ymchwilio i lefelau hiliaeth yn y gweithle.

4. Hyrwyddo Cynllun Gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru, yn ogystal â Siarter Gwrth-hiliaeth yr NEU a’i gyfeirio ato yn ystod hyfforddiant cynrychiolwyr ysgolion.

5. Ymgyrchu dros ddyletswydd gofal i atal hiliaeth yn y gweithle ac i adeiladu undod ymhlith yr holl aelodau.

Back to top