Presenoldeb mewn ysgolion a cholegau. Cynnig 15

Aelodau NEU Cymru “Mae presenoldeb gwael yn peri risg sylweddol i ddysgu, cyrhaeddiad a chyfleoedd bywyd dysgwyr.”

Published:

Mae gan NEU Cymru, undeb addysg fwyaf Cymru, bryderon bod presenoldeb cyfartalog ysgolion yn is na 90% rhwng mis Medi 2022 a Mehefin 2023, a bod 18.8% o blant ar brydau ysgol am ddim wedi methu 30.5 diwrnod dros yr un cyfnod gyda phresenoldeb cyfartalog o 83.9%.

Mae’r Undeb Addysg Cenedlaethol yn galw ar Lywodraeth Cymru am fwy o gyllid, a fyddai’n caniatáu i ysgolion a cholegau helpu dysgwyr absennol sy’n eistedd arholiadau allanol i ddal i fyny, staff arbenigol ychwanegol, a chymorth a sgrinio iechyd meddwl i gefnogi ysgolion a cholegau i fynd i’r afael â phresenoldeb gwael yn effeithiol.

Dywedodd Mary van den Heuvel, Uwch Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

"Mae aelodau NEU Cymru wedi codi pryderon pwysig o ran presenoldeb plant a phobl ifanc mewn ysgolion a cholegau. Mae'r presenoldeb gwael cyson hwn yn cael effaith sylweddol ar ddysgu, yn tarfu ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth a gall effeithio ar faich gwaith addysgwyr.

"Mae angen i Lywodraeth Cymru wneud ymchwil pellach a buddsoddi mewn cyllid a chymorth arbenigol - gan gynnwys iechyd meddwl - ar gyfer yr ysgolion, colegau a’r dysgwyr hynny yr effeithir arnynt. Bydd angen cymorth ar y rhai sydd â lefelau sylweddol o absenoldeb i 'ddal i fyny' cyn eu cymwysterau.

"Rydyn ni'n gwybod bod y Gweinidog dros y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles AS, wedi cyhoeddi tasglu i helpu i fynd i'r afael â chyrhaeddiad. Edrychwn ymlaen at ddod â phrofiadau ein haelodau i Lywodraeth Cymru ar y materion hollbwysig hyn."

 

GORFFEN

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 15. Presenoldeb mewn ysgolion a cholegau

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi:

Roedd presenoldeb cyfartalog ysgolion rhwng Medi 2022 a Mehefin 2023 yn is na 90%. *

Bo 18.8% o blant ar brydau ysgol am ddim wedi methu 30.5 diwrnod dros yr un cyfnod gyda phresenoldeb cyfartalog o 83.9%. *

Bo Llywodraeth Cymru eisoes yn cydnabod y pryder hwn a’r cysylltiad rhwng presenoldeb, cyrhaeddiad a lles a’i bod yn ymgynghori ar ganllawiau drafft ar gyfer cefnogi ysgolion i wella presenoldeb.

Nad oes ystadegau wedi’u cyhoeddi ar bresenoldeb y rheini mewn Addysg Ôl-orfodol mewn ysgolion a Cholegau Addysg Bellach, fodd bynnag, yn anecdotaidd mae’n sylweddol is na’r ffigurau cyn-bandemig.

Cred Cynhadledd Cymru:

Bo’r lefelau presenoldeb presennol mewn ysgolion a cholegau yn anghynaladwy ac yn peri risg sylweddol i ddysgu, cyrhaeddiad, a chyfleoedd bywyd dysgwyr.

Bo effaith presenoldeb gwael yn amharu ar amgylchedd yr ystafell ddosbarth gyda myfyrwyr sy’n absennol dro ar ôl tro yn cael trafferth dilyn manylebau a chynlluniau dysgu.

Bod effaith presenoldeb gwael yn achosi problemau baich gwaith sylweddol i addysgwyr wrth iddynt geisio mynd ar ôl mynychwyr gwael neu gefnogi dysgwyr i ddal i fyny.

Mae Cynhadledd Cymru yn cyfarwyddo’r adran weithredol drwy Bwyllgor Cymru i:

Godi pryderon ynghylch presenoldeb gyda Llywodraeth Cymru ar ran addysgwyr, gan ystyried yr effaith a gaiff ar faich gwaith addysgwyr.

Ymgyrchu am ymchwil pellach i ganfod achosion absenoldeb parhaus a sefydlu'r camau priodol i'w cymryd.

Ymgyrchu dros gyllid, staff arbenigol ychwanegol, a chymorth a sgrinio iechyd meddwl i’w darparu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi ysgolion a cholegau i fynd i’r afael â phresenoldeb gwael yn effeithiol.

ch. Ymgyrchu am gyllid i alluogi ysgolion a cholegau i helpu dysgwyr absennol sy'n eistedd arholiadau allanol i ddal i fyny.

* Presenoldeb disgyblion mewn ysgolion a gynhelir: 5 Medi i 2 Mehefin 2023 | LLYW.CYMRU

 

Back to top