Yr argyfwng cyllid ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru. Cynnig 22

Aelodau NEU Cymru yn tynnu sylw at yr argyfwng cyllid ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru.

Published:

Mae NEU Cymru, undeb addysg fwyaf Cymru, yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu cyllid a buddsoddiad addysgol, fel mater o frys.

Mae gan yr Undeb Addysg Cenedlaethol bryderon am yr argyfwng ariannu parhaus mewn ysgolion a cholegau yng Nghymru. Nid oes digon o arian wedi bod yn mynd i mewn i’r system addysg ac amcangyfrifir bod myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn hyd at £700 y flwyddyn yn llai na disgyblion yn Lloegr.

Mae NEU Cymru hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddrafftio canllawiau cyson a chlir i awdurdodau lleol eu dilyn ar wariant mewn ysgolion, ac i sicrhau bod y cyllid dysgwyr amser llawn unigol a dderbynnir gan golegau Addysg Bellach yn cael ei adolygu’n flynyddol yn erbyn unrhyw Gynnydd Costau Byw, er mwyn sicrhau ymhellach bod dysgwyr, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael addysg debyg i flynyddoedd blaenorol, heb gynnydd mewn materion ariannu.

Dywedodd Stuart Williams, Swyddog Polisi Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru:

“Mae NEU Cymru yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu rhywfaint gan yr arian a gânt gan Llywodraeth y DU yn San Steffan, gyda’r gyllideb mewn termau real yn cael ei hamcangyfrif o £4 biliwn yn llai dros y tair blynedd nesaf. I ryw raddau, mae eu dwylo wedi'u clymu ond mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gyfrifol am sut y maent yn gwario eu cyllideb.

“Rhaid i Lywodraeth Cymru roi polisïau a chanllawiau ar waith i glirio’r “niwl ariannu” ledled Cymru, gan sicrhau bod yna ddull cyson y gall pob awdurdod lleol ei weithredu a bod yn atebol iddo. Rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu cyllid a buddsoddiad addysgol, fel mater o frys. Mae dyfodol addysg yn y fantol, ac mae ysgolion, addysgwyr ac yn bwysicaf oll, myfyrwyr, yn rhy bwysig i beidio buddsoddi ynddynt!”

 

GORFFEN

Roedd testun y cynnig i gynhadledd ar y mater hwn fel a ganlyn

Cynnig 22. Yr argyfwng cyllid ar gyfer ysgolion a cholegau yng Nghymru

Mae Cynhadledd Cymru yn nodi bod argyfwng ariannu wedi bod mewn ysgolion a cholegau ledled Cymru, ers blynyddoedd. Nid oes digon o arian wedi bod yn mynd i'r system addysg ac amcangyfrifir bod myfyrwyr yng Nghymru yn derbyn hyd at £700 y flwyddyn yn llai na disgyblion Lloegr. Ni ellir ac ni ddylid caniatáu i hyn barhau.

Mae Cynhadledd Cymru yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi’i chyfyngu rhywfaint gan yr arian a gânt gan y llywodraeth yn San Steffan, gyda’r gyllideb mewn termau real yn cael ei hamcangyfrif o £4 biliwn yn llai dros y tair blynedd nesaf. I ryw raddau, mae eu dwylo wedi'u clymu.

Fodd bynnag, mae Cynhadledd Cymru hefyd yn nodi bod Llywodraeth Cymru hefyd yn rhannol gyfrifol am yr argyfwng hwn ac felly bod yn rhaid eu gwneud yn atebol. Gellid gwneud llawer i ddatrys y niwl ariannu yng Nghymru pe bai Llywodraeth Cymru yn ailwampio'r ffordd y mae arian yn cael ei rannu rhwng yr awdurdodau lleol, gyda gwahaniaethau enfawr o amgylch Cymru. Rhaid i Lywodraeth Cymru, fel mater o frys, flaenoriaethu cyllid a buddsoddiad addysgol. Mae dyfodol addysg yn y fantol ac mae ysgolion, addysgwyr ac yn bwysicaf oll, myfyrwyr, yn rhy bwysig iddynt beidio!

Mae Cynhadledd Cymru yn cyfarwyddo’r adran weithredol i gysylltu â Phrif Weinidog Cymru a’r Gweinidog Addysg a’u hannog, fel mater o frys, i roi pwysau cynyddol ar Lywodraeth y DU i fynd i’r afael â mater cyllid mewn ysgolion a cholegau. Rhaid iddynt hefyd wthio Llywodraeth Cymru i roi polisïau a chanllawiau ar waith i glirio’r “niwl ariannu” ledled Cymru, gan sicrhau bod yna ddull cyson y gall pob awdurdod lleol ei weithredu a bod yn atebol iddo.

Mae Cynhadledd Cymru yn galw ar yr adran weithredol i:

1. Ail-lansio a hyrwyddo ymgyrch Toriadau i Ysgolion yng Nghymru.

2. Gydweithio â’r holl undebau addysg eraill i gynyddu’r pwysau ar Lywodraeth Cymru.

3. Gydgysylltu â’r holl randdeiliaid gan gynnwys rhieni, llywodraethwyr, a disgyblion i sicrhau bod yr ymgyrch yn cael ei hail-lansio’n llwyddiannus.

4. Ymgysylltu â’r holl brif bleidiau gwleidyddol i hyrwyddo’r syniad bod yn rhaid i gyllid addysg fod yn flaenoriaeth yng Nghymru.

5. Roi pwysau ar Lywodraeth Cymru i ddrafftio canllawiau cyson a chlir i awdurdodau lleol eu dilyn ar wariant mewn ysgolion.

6. Negodi gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y cyllid dysgwyr amser llawn unigol a dderbynnir gan golegau Addysg Bellach yn cael ei adolygu’n flynyddol yn erbyn unrhyw Gynnydd Costau Byw, er mwyn sicrhau ymhellach bod dysgwyr, flwyddyn ar ôl blwyddyn, yn cael addysg debyg i flynyddoedd blaenorol, heb gynnydd mewn materion ariannu

Back to top